Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau yn y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol mewn ysgolion. Mae angen cyllid ychwanegol i atal disgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol rhag cael eu gwthio i’r cyrion mewn ysgolion drwy ddarparu cymorth arbenigol gyda’r nod o gynyddu safonau addysgol a sicrhau cyfle cyfartal i bawb
Mae’r gostyngiad yn y Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig yn cael effaith unigryw ar ddisgyblion lleiafrifoedd ethnig ar adeg pan mae’r nifer fwyaf erioed o ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn ein hysgolion. Mae’r diffyg ymgynghori wedi methu ag ystyried graddfa, cwmpas ac effaith y cymorth hwn o ran unigolion, eu teuluoedd a llwyddiant yr ysgol gyfan.
Gwybodaeth Ychwanegol
The reduction in the MEAG grant impacts exclusively upon ethnic minority pupils at a time when unprecedented numbers of EAL learners are in our schools. Lack of consultation fails to examine the scale, scope and impact of our support upon individuals, their families and whole school achievement.
Prif ddeisebydd : Helen Myers
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer y llofnodion: 37